Bydd Innovate UK, sy'n rhan o UK Research and Innovation, yn gweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth (DfT) i fuddsoddi hyd at £34 miliwn mewn prosiectau arloesi i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o longau.
Bydd y rhain i ddatblygu a defnyddio arddangosiadau gweithredol y byd go iawn o atebion morwrol glân yn ogystal â chynnal astudiaethau dichonoldeb arloesol a threialon cyn defnyddio.
Mae'r Gystadleuaeth Arddangos Morwrol Glân (CMDC) Rownd 4 yn rhan o gyfres o ymyriadau a lansiwyd gan UK Shipping Office for Reducing Emissions (UK SHORE). Nod UK SHORE yw trawsnewid y DU yn arweinydd byd-eang o ran dylunio a gweithgynhyrchu technoleg forwrol glân.
Rhaid i'ch cynnig ganolbwyntio ar dechnoleg forwrol glân. Rhaid i'ch prosiect wneud un o'r canlynol:
- dylunio, datblygu, profi a defnyddio technoleg
- cynnal astudiaeth dichonoldeb technegol ac economaidd
Mae'r gystadleuaeth yn agor: Dydd Mercher, 2 Awst 2023.
Mae’r gystadleuaeth yn cau: Dydd Mercher, 27 Medi 2023 am 11am.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Competition overview - CMDC Round 4 – Vessel or Infrastructure demonstrations - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)