BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth ariannu Technoleg Efelychu ar gyfer Hyfforddiant Gofal Iechyd

Darparwyd hyfforddiant Traceostomi cyn Covid-19 trwy gyfuniad o addysg ar-lein a hyfforddiant efelychu wyneb yn wyneb; fodd bynnag, mae'r elfen wyneb yn wyneb wedi mynd yn fwyfwy anodd yn yr hinsawdd bresennol oherwydd heriau cadw pellter cymdeithasol, diffyg cyfleusterau hyfforddi a'r angen i hunanynysu. 

Yn y gorffennol, mae hyfforddiant wedi'i ddarparu 1:1 gan ddefnyddio dull efelychu cywair isel gyda model syml o berson, nad yw'n debyg mewn unrhyw ffordd i'r amgylchedd clinigol.

Prin iawn fu llwyddiant ymdrechion i ddarparu hyfforddiant efelychu trwy blatfformau ar-lein oherwydd heriau rhyngweithio ac anallu i gael profiad 'ymarferol'. Mae'r hyfforddiant hwn wedi dod i ben bellach oherwydd ei aneffeithiolrwydd, a nodwyd yr angen am hyfforddiant addas yn y dyfodol sy'n manteisio ar ddatblygiadau digidol a thechnolegol newydd.

Er y byddai cam cyntaf yr her hon yn canolbwyntio ar hyfforddiant Traceostomi yn y lle cyntaf, mae potensial i ddefnyddio'r dull arloesol mewn llawer o feysydd eraill, gan gynnwys cymorth bywyd sylfaenol, canolraddol ac uwch. Hefyd, gellid defnyddio'r dechnoleg ar gyfer hyfforddiant efelychu penodol ym mhob arbenigedd ym mhob un o'r Byrddau Iechyd.

Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI yn awyddus i nodi a dangos atebion technoleg efelychu cyflym mewn amgylchedd gweithredol. Rhaid i atebion fod yn addas i ddechrau cael eu defnyddio'n gyflym, ac ar gyfer cynigion llwyddiannus, bydd angen sicrhau achrediad llawn yn barod i ddefnyddio'r dechnoleg yn y 'byd go iawn' erbyn mis Hydref 2021 fan bellaf.

Mae SBRI angen syniadau y gellir eu datblygu a'u profi'n gyflym gyda’r potensial i gael eu datblygu a'u defnyddio ledled Cymru a thu hwnt dros y misoedd nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth hon, ewch i: sdi.click/simtech. Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y gystadleuaeth hon, e-bostiwch: SBRI.COE@wales.nhs.uk

Bydd digwyddiad briffio rhithwir yn cael ei gynnal ar 13 Mai 2021. Dilynwch y ddolen i gofrestru eich diddordeb: https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/gweminar-briffio-sbri-her-hyfforddiant-technoleg-efelychi/

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.