BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth arloesi yn ymwneud â thechnoleg i rwystro troseddwyr arfog neu dreisgar

Mae’r Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch (DASA) wedi lansio cystadleuaeth arloesi er mwyn datblygu galluoedd newydd ar gyfer yr heddlu ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith i rwystro troseddwyr arfog neu dreisgar gan ddefnyddio’r grym lleiaf posibl o bell.

Mae Datblygu Arfau Llai Dinistriol yn gofyn i’r diwydiant a’r byd academaidd am gynigion ar gyfer technolegau arloesol sy’n gallu rhwystro unigolyn treisgar neu arfog dros dro er mwyn atal gwrthdaro pellach neu ddifrod i eiddo.

Mae cyllid cychwynnol gwerth hyd at £500,000 ar gael i arloeswyr, ac mae cyllid ychwanegol gwerth hyd at £500,000 ar gael yn ddiweddarach.

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw dydd Iau 15 Hydref 2020 am hanner dydd.

Ewch i GOV.UK am ragor o wybodaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.