Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o hybu cynhyrchiant a datrys heriau yn eich busnes?
Neu, a oes gennych ateb Deallusrwydd Artiffisial (AI) arloesol a allai fod o fudd i fusnesau sy'n gweithredu mewn sectorau â photensial am dwf uchel?
Os ydych, yna mae'r gystadleuaeth hon yn addas i chi.
Mae cystadleuaeth ariannu BridgeAI, ‘Astudiaethau dichonoldeb ar gyfer atebion Deallusrwydd Artiffisial’ bellach ar agor ac yn derbyn ceisiadau.
Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £5 miliwn mewn cyllid grant i gefnogi astudiaethau dichonoldeb ar y cyd ar gyfer atebion Deallusrwydd Artiffisial ar draws ystod o sectorau diwydiant allweddol, gan gynnwys:
- Amaethyddiaeth a phrosesu bwyd
- Adeiladu
- Diwydiannau Creadigol
- Trafnidiaeth (gan gynnwys logisteg a warysau)
Mae cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yn cau ar 24 Mai 2023.
I ddysgu mwy am y gofynion cymhwyster a chwmpas, gwiriwch recordiad y digwyddiad briffio a chliciwch ar y ddolen ganlynol i gael mwy o wybodaeth Feasibility studies for Artificial Intelligence solutions - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)