Ym mis Awst 2020, lansiodd llywodraeth y DU gynllun newydd i wella cysylltedd band eang mewn lleoliadau digwyddiadau, gan eu galluogi i dderbyn mynediad ffeibr llawn.
Mae’r cynllun yn adeiladu ar ymrwymiadau o’r Cytundeb Sector Twristiaeth a Chynllun Gweithredu Digwyddiadau Busnes Rhyngwladol llywodraeth y DU.
Mae ail gylch y gystadleuaeth band eang ar gyfer lleoliadau digwyddiadau ar agor nawr tan 2 Mawrth 2021. Gall ymgeiswyr wneud cais am gyfran o gyllid £200,000 tuag at gostau seilwaith digidol ar gyfer eu lleoliadau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.