BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Cyflymu Buddsoddi mewn Pympiau Gwres

Pympiau Gwres

Mae'r gystadleuaeth hon yn darparu cyllid grant o hyd at £15 miliwn fesul prosiect ar gyfer buddsoddiadau mawr wrth weithgynhyrchu pympiau gwres a chydrannau sy’n strategol bwysig.

Nod y Gystadleuaeth Cyflymu Buddsoddi mewn Pympiau Gwres (HPIAC), sy'n werth hyd at gyfanswm o £30 miliwn, yw dwyn ymlaen fuddsoddiad yn y gadwyn gyflenwi’r DU ar gyfer gweithgynhyrchu pympiau gwres.

Mae'n agored i fusnesau cofrestredig yn y DU (sy'n cynnwys y rheiny y gellir eu sefydlu at ddiben cyflawni'r prosiect yn y cais), a all wneud cais am gyllid grant o hyd at £15 miliwn fesul prosiect, ar gyfer buddsoddiadau mawr wrth weithgynhyrchu pympiau gwres a chydrannau sy’n strategol bwysig.

Cyflwynwch eich cais erbyn 3pm ddydd Mercher 4 Hydref 2023.

Ar gyfer canllawiau ar y cynllun, y ffurflen gais a'r templed sydd ei angen i wneud cais ar gyfer y gystadleuaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol  Apply for the Heat Pump Investment Accelerator Competition - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.