Mae'r Rhaglen Innovation Exchange yn gweithio ochr yn ochr ag Oxford Innovation Advice a’r UK National Innovation Centre for Ageing (NICA) i ddod o hyd i gwmnïau arloesol sydd ag uchelgais i dyfu eu busnes.
Mae'r gystadleuaeth yn chwilio am arloeswyr gyda syniadau ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd a all gefnogi pobl i gadw'n iach ac yn egnïol i'n helpu i barhau i fod yn symudol a chysylltiedig wrth i ni heneiddio.
Y farchnad Heneiddio'n Iach yw un o'r marchnadoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Y farchnad yn Tsieina yw'r cyfle mwyaf a ddiffinnir yn ddaearyddol. Mae'r Rhaglen Cyflymydd yn cynnwys llwybr dad-fentro i ymuno â'r farchnad hon a gwneud busnesau'r DU yn gystadleuol yn ogystal â bod yn barod ar gyfer twf ac allforio.
Mae'r rhaglen Cyflymydd hon yn agored i fusnesau sydd ag unrhyw syniadau am gynhyrchion neu wasanaethau a all helpu unrhyw berson (o unrhyw oedran) i fyw bywyd cyflawn a symudol a bod yn hyderus y gallant fynd allan yn ddiogel yn ogystal â dychwelyd yn ddiogel i'w cartref eu hunain, ac eto, bod â'r hyder i symud o gwmpas a gwneud tasgau yn eu cartref eu hunain yn ddiogel ac yn gymwys. Croesewir hefyd gynhyrchion a gwasanaethau sy'n ein helpu i gadw'r lefelau symudedd presennol.
Mae cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yn cau ar 28 Awst 2022.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i iX Challenge: Healthy Ageing Innovation Accelerator Competition - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)