BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Cyllid Eureka: Heneiddio’n Iach

Mae Innovate UK, rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn buddsoddi hyd at £2 miliwn i ariannu prosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd sy’n canolbwyntio ar ymchwil ddiwydiannol.

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais a bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu i brosiectau iechyd digidol a dyfeisiau clyfar sy’n hyrwyddo heneiddio’n iach.

Mae’n rhaid iddynt fodloni un neu fwy o’r themâu hyn:

  • roboteg
  • deallusrwydd estynedig ac artiffisial
  • meddalwedd fel dyfais feddygol
  • dyfeisiau y gellir eu gwisgo
  • dyfeisiau meddygol
  • diagnosteg
  • delweddu
  • dadansoddeg data
  • synwyryddion
  • apiau

Mae’n rhaid i brosiectau gynnwys o leiaf un partner o un o’r gwledydd sy’n rhan o’r Rhwydwaith EUREKA. Mae’r gwledydd hyn yn cynnwys:

  • Ffrainc
  • Sbaen
  • Gwlad Belg
  • Lwcsembwrg
  • Canada
  • Malta
  • Twrci
  • Awstria

Bydd y gystadleuaeth yn cau ar 5 Awst 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.