BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Cynlluniau Datgarboneiddio Diwydiannol Lleol: prosiectau buddugol

Net zero symbols on jigsaw pieces

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi 12 enillydd cystadleuaeth y Cynlluniau Datgarboneiddio Diwydiannol Lleol, a fydd yn elwa o gyfran o hyd at £6 miliwn i ddatblygu cynlluniau ar gyfer dyfodol carbon isel.

Bydd y cyllid hwn yn rhoi cyfle i fusnesau a phartneriaid buddugol gydweithio ar gynlluniau i dorri eu hallyriadau, gan ddysgu oddi wrth ei gilydd a, hefyd, cael at gynghorwyr technegol i’w paratoi i fabwysiadu mesurau fel defnyddio hydrogen neu ddal carbon.

Dyfarnwyd cyllid yng Nghymru i NEW-ID (North East Wales Industrial Decarbonisation). 

Partneriaid:

  • Net Zero Industry Wales Ltd (Arweinydd)
  • Prifysgol Bangor
  • Wales & West Utilities Ltd
  • SP Manweb plc
  • Uniper Hydrogen UK Ltd
  • Net Zero Energy Systems Ltd

Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar y momentwm a gafwyd yn Fforwm Datgarboneiddio Glannau Dyfrdwy a menter Cymru Sero Net i gynyddu cydweithredu, cryfhau sgiliau cynllunio datgarboneiddio a galluogi datblygiad strwythurau trefniadaethol ar gyfer datgarboneiddio seiliedig ar le, o fewn 2 ganolfan twf glân:

  • Canolfan Twf Glân Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint
  • Canolfan Twf Glân Wrecsam

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Local Industrial Decarbonisation Plans competition: winning projects - GOV.UK 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.