BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth DASA: Bioleg Peirianneg ar gyfer Amddiffyn a Diogelwch

Mae'r gystadleuaeth Cyflymydd Amddiffyn a Diogelwch (DASA) hon yn chwilio am gynigion ar gyfer prosiectau gwobrau mawr-risg uchel newydd ac arloesol sy'n gorffen ar Lefel Parodrwydd Technoleg (TRL) 3/ 4. Bydd y technolegau a ddatblygir yn seiliedig ar atebion bioleg peirianneg arloesol sy'n mynd i'r afael â heriau amddiffyn mewn un neu fwy o'r tri phwnc canlynol:

  • Defnyddiau
  • Pŵer ac Ynni
  • Synhwyro

Bydd y gystadleuaeth hon yn cynnwys ymchwil amlddisgyblaethol arloesol drwy ddefnyddio offer a thechnegau bioleg peirianneg, gan ddefnyddio dulliau ymchwil newydd a darganfod gwybodaeth newydd i fynd i'r afael â heriau amddiffyn.

Mae'r ddogfen gystadlu hon yn cwmpasu Cam 1 y gofyniad yn unig. Cyfanswm yr arian sydd ar gael ar gyfer Cam 1 cyfan y gystadleuaeth yw £1.5m (cyn TAW).

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 26 Awst 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Competition: Engineering Biology for Defence and Security - GOV.UK (www.gov.uk) 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.