Lloerennau bach y gellir eu defnyddio i gasglu data gwyddonol, fel gwybodaeth am y newid yn yr hinsawdd, yn amrywio o fesuriadau lefel y môr i fapio datgoedwigo, yw nanolloerennau.
Mae'r gystadleuaeth yn gwahodd ymgeiswyr i ddylunio nanolloeren a fydd yn llywio atebion i helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Bydd ymgeiswyr yn cystadlu am gyfran o Gronfa Her gwerth £600,000, gan eu galluogi i ddatblygu ac adeiladu eu dyluniad lloeren gyda'r potensial i'w lansio o faes rocedi yn y DU o 2023.
Anogir ceisiadau gan bobl 16 oed a hŷn o unrhyw gefndir a heb unrhyw ofyniad am wybodaeth, arbenigedd na phrofiad blaenorol yn y sector gofod.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 7 Ionawr 2022.
Ewch i www.nanosatlaunch.uk i gael gwybod mwy am y gystadleuaeth.
Gallwch chi hefyd gofrestru i fynychu digwyddiad lansio rhithwir ddydd Iau 11 Tachwedd 2021.