Mae'r Bartneriaeth Twf Ynni Alltraeth (OWGP) wedi cyhoeddi ei galwad ariannu nesaf, gyda chyfanswm cronfa ariannu o £2m ar gyfer prosiectau a fydd yn arwain at newid sylweddol yn nhwf cwmnïau yn y sector ynni gwynt alltraeth.
Gall prosiectau ganolbwyntio ar un neu fwy o'r meysydd canlynol sy'n hwyluso twf cwmnïau:
- Buddsoddi mewn offer neu gyfleusterau newydd i gynyddu capasiti neu allu gweithgynhyrchu neu ddarparu gwasanaethau.
- Datblygu a gweithredu prosesau gweithredol newydd a fydd yn cynyddu cystadleurwydd yn y DU a marchnadoedd byd-eang.
- Buddsoddi mewn technolegau, cynhyrchion a/neu wasanaethau newydd i wella perfformiad gweithredol, dibynadwyedd a/neu effeithlonrwydd. Sylwer y dylai unrhyw ddatblygiad technoleg fod yn agos at y farchnad, yn barod ar gyfer masnacheiddio. Mae hyn yn cynnwys technoleg arnofiol.
- Gweithgarwch arall a fydd yn tyfu'r cwmni ac yn arwain at fwy o swyddi, trosiant a/neu allforion.
Mae grantiau gwerth £50,000 i £500,000 ar gael i fusnesau'r DU ar gyfer prosiectau sy'n cyd-fynd â’r meysydd cwmpas uchod. Mae'r alwad yn agored i ystod eang o gynigion ar draws y gadwyn gyflenwi ynni gwynt alltraeth bresennol a chynigwyr newydd yn y farchnad.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cam 1 yw 5pm ddydd Gwener, 21 Mehefin 2023.
I gae mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Funding Opportunities | About OWGP | Offshore Wind Growth Partnership