BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Gydweithredol Gyriad Dim Allyriadau

Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn gweithio gyda diwydiant i fuddsoddi hyd at £10 miliwn mewn prosiectau arloesi i gefnogi technolegau gyriad sero net y dyfodol ar gyfer y sector trafnidiaeth.

Nod y gystadleuaeth hon, fel rhan o raglen symudedd sero net a ariennir gan Innovate UK, yw adeiladu ar raglenni symudedd blaenorol penodol i'r sector drwy greu llwyfan traws-sector.

Rhaid i'ch prosiect ganolbwyntio ar un neu fwy o'r sectorau trafnidiaeth canlynol: 

  • Morol
  • Rheilffyrdd
  • Modurol
  • Awyrofod

Bydd y rhaglen hon yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth y DU ar gyfer trafnidiaeth a systemau dim allyriadau fel rhan o'r ymrwymiad sero net ar gyfer 2050.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 11am ar 7 Rhagfyr 2022. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Zero Emission Propulsion CR&D - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.