Mae’r DU a Chanada yn cyd-gynnal cystadleuaeth gyllido i gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd i ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd.
Rhaid i'r prosiectau dargedu gwelliant o ran cynhyrchiant a chynaliadwyedd systemau cnydau, da byw a dyframaeth.
Croesewir cynigion:
- sy’n cyfuno technolegau digidol, deallusrwydd artiffisial, cymhwyso datrysiadau data mawr a pheirianneg ag elfennau biolegol, amgylcheddol a/neu wyddor gymdeithasol i yrru cynhyrchiant
- datblygu technolegau a datrysiadau sy’n cysylltu ffermydd a chadwyni cyflenwi
- trosglwyddo technoleg o sector arall i amaethyddiaeth, cyhyd â bo angen arloesi i wneud hyn
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 5pm ar 24 Mehefin 2020.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.