Mae Innovate UK, sy’n rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £8 miliwn ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu traws-sector, cydweithredol.
Nod y gystadleuaeth hon yw gwella cynhyrchiant a natur gystadleuol cwmnïau yn y diwydiant sylfaenol a chadwyni cyflenwi, drwy gyllido prosiectau ymchwil a datblygu traws-sector, cydweithredol.
Mae’n rhaid i’ch prosiect weithio ar heriau adnoddau ac effeithlonrwydd ynni sy’n gyffredin i 2 neu fwy diwydiant sylfaenol.
Mae’r sectorau diwydiannau sylfaenol yn cynnwys:
- sment
- papur
- gwydr
- cerameg
- metelau
- cemegion
Mae’n rhaid i’ch prosiect:
- ddatblygu ymhellach dechnolegau i leihau risgiau wrth eu defnyddio a hybu eu defnydd ledled y diwydiannau
- datblygu technolegau a fyddai, o’u defnyddio, yn creu newid amlwg mewn adnoddau neu effeithlonrwydd ynni yn y diwydiannau hyn
Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw 10 Mawrth 2021.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.