BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth International Circular Plastics Flagship

Mae’r elusen gynaliadwyedd WRAP ac Innovate UK wedi lansio cronfa sylweddol newydd yn y DU i leihau effeithiau plastigion ar yr amgylchedd yn India, Kenya a De Affrica. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i fusnesau yn y DU, arloeswyr a phartneriaid yn y gwledydd i gydweithio i fynd i’r afael â’r heriau yn y gwledydd hyn.

Mae cystadleuaeth International Circular Plastics Flagship Projects yn gronfa gwerth £1.7 miliwn sydd â’r nod o ddatrys problem llygredd plastig yn y cenhedloedd allweddol hyn.

Gall ymgeiswyr wneud cais am gyllid yn amrywio o £50,000 i £250,000 sy’n dangos datrysiadau sy’n ymateb i dargedau penodol o dan gytundebau pob cenedl.

Mae’r cyllid yn canolbwyntio ar bedair prif thema:

  • pecynnau ffilm hyblyg, gan gynnwys fformat bach
  • deunydd pecynnu y gellir ei ailddefnyddio a modelau busnes bach
  • casglu, trefnu, glanhau ac ailgylchu
  • datblygu’r farchnad

Dylai sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais wneud hynny cyn 13 Ionawr 2022 am 23:45 GMT. 

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan WRAP
 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.