BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth niwclear arloesol – ydych chi’n barod am yr her?

Mae’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear - gan gynnwys Sellafield Ltd a Magnox Ltd - wedi cydweithio ag Innovate UK i alw ar gwmnïau i feddwl am syniadau newydd a dulliau arloesol o fynd i’r afael â’r her.

Mae roboteg, synwyryddion, deallusrwydd artiffisial a systemau awtonomaidd ond yn rhai o’r technolegau posibl y gellid eu defnyddio ar gyfer y gystadleuaeth Didoli a Gwahanu Gwastraff Niwclear.

Mae ar agor i unrhyw sefydliad sydd â diddordeb - does dim rhaid iddyn nhw fod o gefndir niwclear – ac mae croeso iddyn nhw sefydlu consortiwm a datblygu cynllun i fynd i’r afael â’r her. Mae’n ymwneud â gwaith yn Sellafield a sawl un o safleoedd adweithyddion niwclear Magnox – sef cenhedlaeth gyntaf y DU o adweithyddion niwclear.

Bydd y gystadleuaeth yn agor ar 17 Awst gyda digwyddiad briffio ar-lein a gynhelir ar 25 Awst. Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 11 Tachwedd 2020 am 11am.

Am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth a sut i wneud cais, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.