BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Rising Stars 3.0

Mae’r gystadleuaeth Rising Stars 3.0 ar gyfer cwmnïau technoleg arloesol cymharol newydd.

Mae’r gystadleuaeth yn arddangos y gorau sydd gan y wlad i’w chynnig ac yn darparu llwyfan i fusnesau yng Nghymru, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon serennu.

Bydd eich busnes yn elwa ar godi proffil yn sylweddol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â’r cyfle i ddwyn eich busnes i sylw buddsoddwyr, dylanwadwyr a corfforaethau blaenllaw.

Cefnogir cystadleuwyr gydol y broses ymgeisio, ac byddant yn cael hyfforddiant a chymorth ym mhob cam o’r gystadleuaeth i’w galluogi i gystadlu hyd eithaf eu gallu a rhoi’r cyfle gorau iddynt serennu.

Mae’r gystadleuaeth yn cau am 4pm ar 20 Hydref 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Tech Nation.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.