BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Sgiliau Hedfan yn y Dyfodol


 

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd diwethaf:
12 Medi 2023

Bydd Her Hedfan y Dyfodol ar gyfer Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn buddsoddi hyd at £500,000 mewn prosiectau i gau bylchau sgiliau yn y diwydiant awyrennau.

Nod y gystadleuaeth hon yw creu a chyflwyno cynnwys a deunyddiau cyrsiau a fydd yn cefnogi sgiliau, talent a hyfforddiant ar draws y sector hedfan yn y dyfodol. Diben hyn yw adeiladu ymwybyddiaeth o farchnadoedd hedfan sy'n dod i'r amlwg yn y dyfodol a llenwi bylchau allweddol yng ngalluoedd hyfforddi a talent gweithlu'r DU.

Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw 11am, 1 Chwefror 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Future flight – UKRI


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.