Ydych chi’n rhedeg busnes llwyddiannus yn y sector ffasiwn, tecstilau neu sector dechnolegol gysylltiedig? Oes gennych chi syniad a allai fynd â'ch cwmni a'r diwydiant i'r lefel nesaf?
Mae Rhaglen Gymorth Ymchwil a Datblygu Busnes Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg (BFTT) ar agor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb (EOI).
Mae'r sector ffasiwn, tecstilau a thechnoleg (FTT) yn hyfyw, yn fentrus ac yn amlddisgyblaeth, ac mae’n llywio llawer o sectorau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant yn ehangach. Yn llythrennol, gall hyn gwmpasu meysydd fel Amaethyddiaeth a Hysbysebu.
Nod yr Alwad Gyllido hon yw rhoi cefnogaeth i Fusnesau Bach a Chanolig i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau yn y sectorau ffasiwn, tecstilau a thechnoleg – sy’n ymgorfforiad o arloesedd cynaliadwy.
Y dyddiad cau i gofrestru eich datganiad o ddiddordeb yw 29 Mawrth 2021.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan BFTT.