Bob blwyddyn, mae Acas yn cefnogi miliynau o gyflogwyr a gweithwyr yn y DU i wella cysylltiadau yn y gweithle.
Mae’r argyfwng Coronafeirws wedi arwain at sawl her i fusnesau a’u staff. Os ydych chi wedi parhau i weithredu neu wedi gorfod cau yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, bydd gweithio’n effeithiol gyda’ch pobl yn allweddol wrth symud ymlaen.
Mae Acas yn cynnal sioeau teithiol rhithwir am ddim a fydd yn rhoi syniadau i gyflogwyr er mwyn helpu’ch sefydliad i fynd i’r afael â heriau yn y gweithle yn sgil yr argyfwng coronafeirws.
Byddwch yn cael cyfle i gysylltu â Chynghorwyr Acas lleol, dysgu am y gwasanaethau a’r canllawiau hanfodol y mae Acas yn eu darparu a rhyngweithio â busnesau eraill o bob cwr o’r rhanbarth.
Cynhelir y sioeau teithiol ar Zoom ar y dyddiadau canlynol:
- 8 Gorffennaf 2020, y De – 10am i 11am – cadwch eich lle yma
- 21 Gorffennaf 2020, y Gorllewin – 10am i 11am – cadwch eich lle yma
- 21 Medi 2020, y Gogledd – 10am i 11am – cadwch eich lle yma
Ewch i wefan ACAS am wybodaeth am reolau, hawliau ac arferion gweithle ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr.