BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dadansoddi risgiau amgylcheddol a hinsawdd ar gyfer cyllid cadernid: cam un

Mae newid hinsawdd nid yn unig yn ddrwg i’r blaned; mae hefyd yn niweidiol i’r economi fyd-eang hefyd.

Bydd cystadleuaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach Innovate UK yn cynorthwyo i integreiddio ffactorau hinsawdd ac amgylcheddol i’r gwasanaethau ariannol. Gall sefydliadau wneud cais am gyfran o hyd at £1.5 miliwn sy’n cynnwys TAW.

Bydd y gystadleuaeth hon yn cyllido prosiectau sy’n dod â dadansoddi risgiau amgylcheddol a hinsawdd i arferion bob dydd y gwasanaethau ariannol.

Mae’r risgiau hyn yn cynnwys:

  • risgiau ffisegol i gadwyni cyflenwi ac eiddo yn sgil trychinebau naturiol cynyddol gyffredin
  • risg ymgyfreitha lle mae busnesau yn atebol am eu cyfraniad at ddifrod i natur
  • risg pontio lle mae symudiadau economaidd-gymdeithasol neu wleidyddol tuag at sero net yn tanseilio buddsoddiadau anghydnaws

Bydd y gystadleuaeth yn cyllido cwmnïau i ddatblygu datrysiadau trosfwaol ar gyfer cyllid gwyrddu ac i dreialu’r datrysiadau hyn gyda phartneriaid yn y diwydiant cyllid.

Y dyddiad cau yw 16 Chwefror 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Climate and environmental risk analytics for resilient finance: phase one – UKRI


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.