BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Darganfod Trawsnewid Digidol – Rhaglen Hyfforddiant Ar-lein

Laptop with colourful screen

A allech chi elwa o arweiniad ar-lein a mentora un-i-un ar eich taith ddigidol gydag arbenigwyr gwyddor data a deallusrwydd artiffisial (AI)?

Bwriedir y rhaglen hyfforddiant, Darganfod Trawsnewid Digidol, i fusnesau neu sefydliadau o unrhyw faint ym meysydd amaeth, y diwydiannau creadigol, adeiladu neu drafnidiaeth, a’i nod fydd helpu eich busnes i archwilio technolegau digidol, AI a thechnolegau wedi’u gyrru gan ddata.

Bydd y gyfres hon ar lefel ragarweiniol yn eich helpu i fynd i’r afael ag AI a thechnolegau digidol cysylltiedig, ac adnabod cymwysiadau posibl o fewn eich busnes i arbed amser, lleihau costau a gwella arloesedd.

Bydd y sesiynau’n cynnwys:

  • Gwneud i ddata weithio i chi – 24 Ionawr 2024
  • Cymwysiadau AI mewn diwydiant – 31 Ionawr 2024
  • Modelu: Gallu sylfaenol – 7 Chwefror 2024
  • Pam gefeilliaid digidol? – 14 Chwefror 2024
  • Platfformau â’r gallu i dyfu, sy’n cefnogi trawsnewid digidol – 21 Chwefror 2024

Gallwch archebu lle ar gyfer y rhaglen gyfan neu ddim ond y sesiynau sydd eu hangen arnoch.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ariannu’n llawn gan raglen BridgeAI Innovate UK, felly bydd ar gael yn rhad ac am ddim adeg cyflwyno.

Cofrestrwch cyn 24 Ionawr 2024 i ddechrau ar eich trawsnewid digidol.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Discover Digital Transformation Training Programme - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.