BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Darganfyddwch fanteision parthau .wales a .cymru

Mae'r we bellach yn Gymreig yn sgil parthau .cymru a .wales. 

.cymru a .wales yw'r parthau lefel uchaf i Gymru ac fe'u lansiwyd ar 1 Mawrth 2015 gan Nominet, y sefydliad sy'n gyfrifol am sicrhau bod y rhyngrwyd .UK yn rhedeg yn ddidrafferth. 

I'r rheiny sydd eisiau tanlinellu eu cysylltiad neu eu treftadaeth Gymreig, mae diwedd enw parth yn arwydd gweladwy i unrhyw un sy'n ymweld â'u safle. Mae'n newyddion gwych i Gymru, i fusnesau Cymru ac i unrhyw un sydd eisiau targedu marchnad Cymru. 

P'un a ydych yn dechrau gwefan fusnes newydd, cyfeiriad e-bost neu'n dechrau prosiect personol, mae eich enw parth yn rhan fawr o'ch brand, a byddwch yn adeiladu eich hunaniaeth ar-lein o'i gwmpas. 

Mae cyfeiriad gwe Cymreig cofiadwy yng Nghymru yn golygu ei bod yn haws i gwsmeriaid ddod o hyd i chi ar-lein, a allai arwain at fwy o werthiannau gartref, ledled y DU a thu hwnt. 

Mae cael enw parth .cymru neu .wales yn ffordd berffaith o ddangos i'r byd eich bod yn falch o fod yn rhan o Gymru. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Amdanom ni - Ein Cartref Arlein : Ein Cartref Arlein


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.