BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd cyllido diweddaraf gan Innovate UK

row of light bulbs with one different from the others

Mae gen Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.

Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: CRISP23 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein

Ymchwil a datblygu cydweithredol ynni gwynt ar y môr rhwng y DU a'r UD

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu ynni gwynt ar y môr. Darganfyddwch fwy a gwnewch gais 

Gweithgynhyrchu meddyginiaethau hyblyg, ystwyth, graddadwy a chynaliadwy

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £5 miliwn i gefnogi datblygu a gweithredu ar gyfer gweithgynhyrchu meddyginiaethau. Darganfyddwch fwy a gwnewch gais 

Catalydd Biofeddygol 2023 rownd 2: Ymchwil a Datblygu dan arweiniad y diwydiant

Gall busnesau bach a chanolig (BBaChau) sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £20 miliwn i ddatblygu atebion arloesol ar gyfer heriau gofal iechyd. Darganfyddwch fwy a gwnewch gais 

Bwyd hylifol a diodydd mewn pecynnau y gellir eu hail-lenwi

Gall busnesau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £1.5 miliwn ar gyfer prosiectau arloesol i ddangos system pecynnau y gellir eu hailddefnyddio neu ru hail-lenwi ar gyfer cynhyrchion bwyd hylifol a diodydd ar raddfa fawr. Darganfyddwch fwy a gwnewch gais 

Ymchwil a datblygu cydweithredol MyWorld: Rownd 2

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer prosiectau arloesol mewn technoleg greadigol. Darganfyddwch fwy a gwnewch gais 

Knowledge Asset Grant Fund: archwilio, gaeaf 2023

Gall sefydliadau sector cyhoeddus y DU wneud cais am hyd at £25,000 o’r Knowledge Asset Grant Fund i helpu i fanteisio ar asedau anniriaethol sydd â chymhwysiad ehangach na'u perchennog-sefydliad. Darganfyddwch fwy a gwnewch gais 

Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth: 2023 i 2024 rownd 5

Gall sefydliadau academaidd, sefydliadau ymchwil a thechnoleg (RTO) neu Catapults sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £9 miliwn i ariannu prosiectau arloesi gyda busnesau neu sefydliadau nid er elw. Darganfyddwch fwy a gwnewch gais 

Economi’r dyfodol benthyciadau arloesi Innovate UK: rownd 11

Gall busnesau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am fenthyciadau ar gyfer prosiectau arloesol sydd â photensial masnachol cryf i wella economi'r DU yn sylweddol. Darganfyddwch fwy a gwnewch gais 

Ofgem Rownd 3: dulliau newydd o gyflwyno system bŵer ddiogel

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £30 miliwn ar gyfer prosiectau cam darganfod cydweithredol sy'n darparu systemau pŵer diogel. Darganfyddwch fwy a gwnewch gais 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.