Mae nifer y tomenni glo segur yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi heddiw (14 Tachwedd 2023) ar fapiau rhyngweithiol sy'n dangos lleoliad y 350 sy'n cael eu harchwilio'n amlach.
Cyhoeddir y data ar ôl sefydlu'r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo yn dilyn y tirlithriad yn Tylorstown ym mis Chwefror 2020.
Un o amcanion allweddol y tasglu yw llenwi'r bwlch gwybodaeth am domenni glo segur ac, i'r perwyl hwnnw, comisiynwyd yr Awdurdod Glo gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i arwain prosiect casglu data.
Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o'r tomenni fesul Awdurdod Lleol gyda'r tomenni oedd angen eu harchwilio'n amlach yn cael eu categoreiddio'n rhai C a D.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at tua 1,500 o berchnogion tir a thua 600 o feddianwyr eiddo ledled Cymru i'w hysbysu ei bod yn debygol bod tomen lo gyfan neu ran o domen lo segur ar eu tir.
Bydd gwaith cynnal ac arolygu yn parhau yn ôl yr arfer, ac mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £44.4 miliwn ychwanegol ar gael i Awdurdodau Lleol i waith allu parhau ar domenni cyhoeddus a phreifat.
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu tudalen we bwrpasol ac mae hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio mewn cymunedau yr effeithir arnynt ledled Cymru ac yn cynnal digwyddiadau ar-lein i gefnogi preswylwyr.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Data ar domenni glo segur Cymru yn cael ei gyhoeddi