BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

'Data gwrthdrawiadau ffyrdd yn dangos bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir' – Ysgrifennydd Trafnidiaeth

20mph sign

Mae data newydd yn dangos bod anafiadau wedi lleihau ar ffyrdd ers cyflwyno'r terfynau cyflymder 20mya'r llynedd.

Mae'r data, sy'n nodi cyfanswm nifer y rhai a anafwyd mewn gwrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu, yn dangos bod nifer yr anafiadau ar y ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng 218, o 681 yn 2022 i 463 yn 2023.

Cyfanswm nifer yr anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya yn Ch4 oedd y ffigwr chwarterol isaf a gofnodwyd y tu allan i gyfnod pandemig COVID.

Yn gyffredinol, yn 2023 cofnododd yr heddlu yng Nghymru gyfanswm o 3,262 o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, gostyngiad o 1.6% o'i gymharu â 2022 a 24.7% yn is nag yn 2019 (cyn pandemig COVID).

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:

Mae'r data a gyhoeddwyd heddiw yn dangos yn glir bod anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi lleihau ers cyflwyno 20mya - yr isaf erioed y tu allan i gyfnod pandemig COVID.

Mae lle i wella o hyd, ac rydym yn disgwyl i’r niferoedd amrywio dros y blynyddoedd nesaf wrth i yrwyr addasu i’r cyflymder newydd, ond mae’n galonogol gweld bod pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir. Mae unrhyw leihad yn nifer y bobl sy’n cael eu hanafu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Prif amcan y polisi o'r dechrau'n deg oedd lleihau nifer yr anafiadau a helpu pobl i deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau ac mae data heddiw yn dangos ei bod hi'n bosibl cyflawni hyn.

Ond, wrth i mi barhau i wrando ar sylwadau, rwy'n ymwybodol bod angen i ni fireinio'r polisi o hyd er mwyn sicrhau bod gennym y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir. Rwyf hefyd yn barod i gydnabod y gallai fod angen i rai ffyrdd ddychwelyd yn ôl i 30mya. Fel rhan o'n proses o dderbyn sylwadau, byddwn yn annog pobl i gysylltu â'u cyngor lleol i ddweud ble yn eu barn nhw y dylai'r 20mya gael ei dargedu.

Cliciwch ar y ddoleni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.