BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Data newydd yn dangos manteision gyrru ar gyflymder o 20mya wrth i Gymru baratoi i ostwng y terfyn cyflymder diofyn

Mae prif ganfyddiadau adroddiad newydd a luniwyd mewn ardaloedd sy’n treialu’r cyflymder 20mya diofyn newydd wedi dangos cyflymder gyrru arafach, lefelau uwch o gerdded a chyn lleied â phosibl o effaith ar amseroedd teithio, ymhlith eraill.

Mae’r adroddiad monitro interim yn defnyddio data a gasglwyd o’r wyth ardal a ddewiswyd ar gyfer cam cyntaf rhaglen 20mya Llywodraeth Cymru a chaiff ei gyhoeddi heddiw (17 Mawrth 2023) – chwe mis yn union cyn i’r terfyn diofyn ddod i rym ar draws Cymru.

Ar 17 Medi 2023, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru.

Mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi'u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Maent fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle y mae lefel uchel o gerddwyr.

Bydd hyn yn golygu mai Cymru fydd cenedl gyntaf y DU i gyflwyno terfyn cyflymder is gan ddilyn ôl troed gwledydd Ewrop fel Sbaen lle mae 30km/h (18.5mya) eisoes ar waith.

Mae tystiolaeth yn dangos y bydd lleihau’r terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya yn arwain at sawl mantais, gan gynnwys lleihau nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a’r anafiadau difrifol, mwy o bobl yn cerdded a beicio, ac iechyd a llesiant gwell.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Data newydd yn dangos manteision gyrru ar gyflymder o 20mya wrth i Gymru baratoi i ostwng y terfyn cyflymder diofyn | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.