BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datblygiadau adeiladu newydd: darparu cysylltiadau galluog gigabit

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr tai sicrhau bod pob tŷ newydd sy’n cael ei adeiladu yn gallu derbyn cysylltiad band eang gigadid.

Bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i ddatblygwyr sicrhau:

  • bod seilwaith ffisegol gigabit parod ar gyfer cysylltiadau sy'n gallu delio â gigabit yn cael eu gosod ym mhob cartref newydd 
  • bod cysylltiad galluog gigabit mewn cartrefi newydd yn amodol ar Uchafswm Cost o £2,000 fesul annedd
  • neu pan nad yw cysylltiad sydd yn gallu ymdopi a gigabit yn cael ei osod, gosodir y cysylltiad band eang cyflymaf nesaf heb fod yn fwy na'r uchafswm cost o £2,000

Mae cysylltedd digidol yn gynyddol bwysig i bobl ledled Cymru o ran cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, gweithio gartref neu gyrchu gwasanaethau cyhoeddus.

Pan fo cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, rydyn ni eisiau sicrhau bod cysylltiadau’n gyson ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i uwchraddio ein seilwaith digidol a chyfathrebu drwy ei Rhaglen Lywodraethu a’r Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 28 Ebrill 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Mae ymgynghoriad wedi agor ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol sicrhau cyflymder lawrlwytho o 1 gigadid yr eiliad ym mhob cartrefnewydd sy’n cael ei adeiladu | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.