Mae Ffilm Cymru yn datblygu ffilmiau nodwedd o’r safon uchaf posib mewn nifer o wahanol genres - ffilmiau nodwedd byw ‘live-action’, dogfennau a ffilmiau wedi eu hanimieiddio sy’n adrodd straeon byd-eang o safbwyntiau unigryw.
Pwy all ymgeisio?
Cynhyrchwyr sydd eisoes wedi arwain ar ffilm nodwedd neu ar waith sgrin arwyddocaol. Dylai naill ai’r awdur, y cynhyrchydd neu’r cyfarwyddwr sy’n arwain ar y prosiect fod wedi ei g/eni neu ei l/leoli yng Nghymru.
Am faint gai ymgeisio?
75% o holl gostau datblygu’r prosiect. Fel arfer ‘rydym yn cynnig uchafswm o £25,000 ar gyfer cam penodol o’r gwaith datblygu – gellid defnyddio’r arian ar gyfer costau sgriptio cychwynnol o’r driniaeth, profion cysyniad neu gostau pecynnu.
Beth sydd angen arnaf i ymgeisio?
Yn ogystal â ffurflen gais wedi ei chwblhau, bydd angen sgript ar gyfer y prosiect os ar gael, neu driniaeth 8-10 tudalen a sampl o’r sgript, CVs ar gyfer aelodau allweddol y tîm creadigol, unrhyw gytundebau sy’n ymwneud â hawliau gwaelodol.
Dyddiad cau nesaf yw 1 Chwefror 2024.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Datblygu Ffilmiau Nodwedd - Gwneuthurwyr Ffilm Profiadol | Ffilm Cymru (ffilmcymruwales.com)