Mae gan Innovate UK, fel rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, hyd at £10 miliwn o’r gronfa i’w fuddsoddi mewn astudiaethau dichonoldeb ac mewn ymchwil a datblygu i dechnolegau batri addawol ac arloesol.
Gall prosiectau ganolbwyntio ar welliannau amrywiol i dechnolegau batri ar gyfer gyrru cerbydau trydan. Gallent edrych ar gymwysiadau modurol neu sectorau eraill fel rheilffyrdd, morol, awyrofod, amddiffyn neu gerbydau oddi ar y ffordd lle gellid arloesi i fodloni gofynion perfformio heriol neu alluogi trydaneiddio.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Rhagfyr 2020 am 11am, gall prosiectau gael eu harwain gan fusnesau o unrhyw faint sy’n gweithio gyda busnesau neu ymchwilwyr eraill.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.