Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o £25 miliwn ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cyfnod hwyr sy’n helpu i gyflymu cynnydd y DU tuag at ddyfodol modurol sero net.
Mae’r Advanced Propulsion Centre (APC) yn darparu cyllid, cymorth a mewnwelediad ar ddatblygu technolegau modurol carbon isel a sero net. Ei nod yw cefnogi pontio’r DU tuag at weithgynhyrchu cynhyrchion a chadwyn gyflenwi sero net yn sector modurol y DU.
Crynodeb o gymhwystra:
- mae’r gystadleuaeth hon ar agor i fentrau cydweithredol yn unig
- i arwain prosiect mae’n rhaid i’ch sefydliad fod yn fusnes o unrhyw faint wedi’i gofrestru yn y DU
- mae’n rhaid i’ch consortiwm gynnwys gwneuthurwr cerbydau neu gyflenwr haen un
- mae’n rhaid i chi gynnwys o leiaf un fenter micro, bach neu ganolig
Bydd y gystadleuaeth yn cau ar 2 Mawrth 2022 am 11am.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Developing automotive technologies and growing capability towards net zero – UKRI