Os:
- ydych chi rhwng 18 a 30 oed
- ydych chi’n perthyn i gymuned pobl ddu neu leiafrifoedd ethnig sy’n byw yng Nghymru
- oes gennych chi syniad busnes, talent a/neu sgil
- oes gennych chi uchelgais i wneud newid cadarnhaol i’n cymunedau trwy eich syniadau busnes arloesol
Ymunwch â ASSADAQAAT Community Finance i rannu eich syniadau a dysgu sut i droi eich cynnyrch neu wasanaeth yn realiti masnachol.
Mae’r ‘rhaglen flasu’ undydd hon wedi’i llunio i roi trosolwg i chi o’r hyfforddiant, sgiliau, cyngor, mentora a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Bydd rhai o’r pynciau allweddol yr eir i’r afael â nhw yn cynnwys:
- Datblygu eich gweledigaeth
- Mapio eich syniadau
- Datblygu meddylfryd entrepreneuraidd
- Dod yn ysgogwr newid
- Marchnata eich syniadau
- Ariannu eich syniadau
Dyddiad: Dydd Sadwrn 17 Mehefin 2023
Amser: 10:30am tan 4:00pm
Lleoliad: Tramshed Tech – Uned D, Stryd Pendyris, Caerdydd, CF11 6BH
Am ragor o wybodaeth ac i gadw eich lle, cliciwch y ddolen ganlynol ACF Youth Changemakers Event (tfaforms.com)