Ledled y byd, mae degau o filiynau o oedolion a phlant yn wynebu bywydau annirnadwy o greulondeb a chaledi mewn amodau caethwasiaeth fodern.
Mae caethwasiaeth yn llwyddo i gyrraedd cadwyni cyflenwi y dillad rydym yn eu prynu, y bwyd rydym yn ei fwyta, y deunyddiau rydym yn eu defnyddio yn ein hadeiladau a'r cydrannau yn ein ffonau a'n cyfrifiaduron. Mae hefyd yn digwydd yn ein cymunedau, pan fo unigolion yn wynebu dan orfod gamfanteisio yn y gweithle, camfanteisio rhywiol, caethwasanaeth domestig, a chamfanteisio troseddol gan gangiau troseddol cyfundrefnol, rhwydweithiau troseddol, a chyflawnwyr unigol.
Nid yw Cymru wedi’i heithrio rhag yr arferion atgas hyn. Rhaid inni barhau i gymryd camau i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern lle bynnag y bo'n bodoli.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Datganiad Caethwasiaeth Fodern hwn yn unol â'n Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Wrth ddatblygu a dod yn llofnodwr i'r Cod Ymarfer hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n wirfoddol i lunio Datganiad Caethwasiaeth Fodern yn flynyddol.
Fel sefydliad mawr, mae'n anochel bod Llywodraeth Cymru yn rhan o gadwyni cyflenwi byd-eang lle camfanteisir ar weithwyr. Wrth gyhoeddi'r datganiad hwn, rydym yn cydnabod y risgiau hyn, yn derbyn ein cyfrifoldebau, ac yn ymrwymo i wella ein harferion.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Datganiad caethwasiaeth fodern Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU