BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Cyllideb Gwanwyn Trysorlys EF 2023

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei Chyllideb Gwanwyn.

Dyma rai pwyntiau allweddol:

  • rhewi’r doll ar danwydd – bydd y toriad 5c i’r doll ar betrol a diesel, a oedd i ddod i ben ym mis Ebrill, yn cael ei gadw am flwyddyn arall 
  • bydd y lwfans blynyddol di-dreth ar gyfer pensiynau yn codi o £40,000 i £60,000 a bydd y Lwfans Gydol Oes yn cael ei ddileu
  • bydd y Warant Prisiau Ynni (EPG) yn cael ei chadw ar £2,500 am dri mis arall o fis Ebrill i fis Mehefin 
  • cadarnhawyd y bydd y brif gyfradd treth gorfforaeth, sy’n cael ei thalu gan fusnesau ar enillion trethadwy dros £250,000, yn cynyddu o 19% i 25%
  • hwb treth i fusnesau llai a chanolig

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.