Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi ei Ddatganiad yr Hydref. Nodir rhai pwyntiau allweddol isod:
- Bydd y trothwy pryd y bydd enillwyr uwch yn dechrau talu’r gyfradd 45c yn cael ei leihau o £150,000 i £125,140, tra bydd y trothwyon ar gyfer Treth Incwm, Treth Etifeddiant ac Yswiriant Gwladol yn cael eu rhewi am ddwy flynedd arall tan fis Ebrill 2028.
- Bydd y Warant Pris Ynni yn parhau i ddarparu cymorth o fis Ebrill 2023 ymlaen a bydd y terfyn yn codi i £3,000.
- Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael ei gynyddu 9.7% i £10.42 yr awr.
- Bydd y trothwy ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs) cyflogwyr yn aros yn sefydlog tan fis Ebrill 2028, ond bydd y Lwfans Cyflogaeth yn parhau i amddiffyn 40% o fusnesau rhag gorfod talu unrhyw NICs o gwbl.
- Bydd prif gyfradd y Dreth Gorfforaeth yn cynyddu i 25% o fis Ebrill 2023 ymlaen.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni canlynol: