BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu a diwygio’r drefn rheoleiddio busnesau bwyd yng Nghymru

Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

“Mae gweithrediadau busnesau bwyd ac ymddygiad prynwyr wedi esblygu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i’r DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, y pandemig COVID-19, a digwyddiadau mewn rhannau eraill o’r byd. Mae datblygiadau technolegol, arloesi ym myd busnes, a datblygiadau digidol hefyd yn newid y dirwedd busnes bwyd, gan greu heriau rheoleiddio newydd.

Y llynedd, ymrwymodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i weithredu rhaglen i adolygu a diwygio rheoleiddio er mwyn sicrhau bod y trefniadau ar gyfer rheoleiddio bwyd yn parhau yn gymesur ac yn briodol, heb gyfaddawdu ar y safonau uchel presennol sydd ar waith i ddiogelu’r cyhoedd a chynnal hyder y prynwr.

Ysgrifennais at Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd (Cymru), a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn nodi fy nisgwyliadau ar gyfer y rhaglen hon, gan ei gwneud yn glir bod yn rhaid i unrhyw ddiwygiadau rheoleiddiol adlewyrchu’r sefyllfa o ran busnes a rheoleiddio yng Nghymru, a sicrhau’r un lefel, neu lefel uwch, ar gyfer safonau diogelwch bwyd. Hefyd rwyf wedi ailbwysleisio’r egwyddorion yr wyf yn disgwyl i Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, awdurdodau lleol, a swyddogion Llywodraeth Cymru gadw atynt wrth gyflawni eu gwaith, fel y nodir yn y cytundeb cydweithredu y cytunwyd arno rhwng y partïon hyn a Chynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r cytundeb i’w weld yn Adolygu a diwygio’r drefn rheoleiddio busnesau bwyd yng Nghymru.”

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu a diwygio’r drefn rheoleiddio busnesau bwyd yng Nghymru (2 Mai 2023) | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.