BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Ap Covid-19 y GIG: hysbysu cysylltiadau agos a chyngor ar hunanynysu

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol datganiad ysgrifenedig isod:

Hoffwn egluro’r sefyllfa yng Nghymru a'r camau sy'n ofynnol i ddefnyddwyr Ap Covid-19 y GIG sy'n cael gwybod eu bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am Covid-19.

Mae cyfraddau achosion yng Nghymru wedi bod yn codi, ac o ganlyniad mae nifer y cysylltiadau y gofynnir iddynt hunanynysu, boed hynny gan swyddogion olrhain cysylltiadau Profi Olrhain Diogelu (TTP) neu drwy Ap Covid-19 y GIG, hefyd wedi bod yn cynyddu. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi nad yw cyfraddau’r achosion a’r cysylltiadau, ar hyn o bryd, ar yr un lefelau ag y maent mewn mannau eraill yn y DU.

Mae Ap Covid-19 y GIG yn parhau i fod yn adnodd atodol pwysig i'n gwasanaeth TTP a dylai defnyddwyr yr Ap barhau i ddilyn y cyngor hunanynysu os byddant yn cael hysbysiad. Mae'n ofyniad cyfreithiol i hunanynysu os bydd y gwasanaeth TTP yn dweud wrthych am wneud hynny. Nid yw Ap Covid-19 y GIG yn dod o dan y ddyletswydd gyfreithiol hon oherwydd nad yw’n cynnwys enwau a bod preifatrwydd y defnyddwyr yn cael ei ddiogelu. Dylai defnyddwyr Ap Covid-19 y GIG ddilyn y cyfarwyddyd i hunanynysu er mwyn helpu i leihau lledaeniad y feirws.

Mae'r cynnydd yn nifer y cysylltiadau sy’n cael hysbysiadau, sy’n eu cynghori i hunanynysu, yn dangos bod Ap Covid-19 y GIG yn gweithio'n effeithiol ac yn gwneud yr hyn y mae wedi'i gynllunio i'w wneud.

Ym mis Awst, fel rhan o'r cylch adolygu 21 diwrnod nesaf, ein nod yw cael gwared ar y gofyniad i bobl sydd wedi cael eu brechu'n llawn hunanynysu os ydynt yn gysylltiad agos i rywun sydd wedi cael prawf positif. Byddwn hefyd yn ystyried eithriadau posibl eraill, er enghraifft y rhai dan 18 oed. Bydd Ap Covid-19 y GIG yn cyd-fynd â'r newidiadau hyn pan gânt eu gwneud.

Hyd nes y cyflwynir unrhyw newidiadau, mae'n hanfodol bod unrhyw un sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu yn gwneud hynny.

I ddarllen y datganiad llawn ewch i wefan Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.