Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Datganiad 5 Ionawr 2022.
“Mae capasiti Cymru o ran profion COVID-19 wedi cynyddu’n sylweddol yn labordai GIG Cymru ac fel rhan o raglen brofi’r DU, sef y rhaglen fwyaf yn Ewrop gyda bron i 400 miliwn o brofion PCR wedi’u cynnal ers dechrau’r pandemig.
Wrth i’r don omicron ledu ar draws y wlad, mae’r galw am brofion PCR wedi cyrraedd lefelau uwch nag erioed ar draws y DU. O ganlyniad i hyn, mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cyfyngu ar yr archebion ar brydiau er mwyn osgoi gorlethu labordai rhaglen y DU, ac effeithio ar amseroedd prosesu’r canlyniadau.
Rwyf wedi cytuno ar rai newidiadau i’w gwneud ar unwaith i’r system profion PCR a fydd yn helpu i leihau’r pwysau, a helpu i gynyddu mynediad ar gyfer y rheini sydd â symptomau ac sydd angen trefnu prawf.
Bydd y newid cyntaf yn golygu y dylai pobl sydd heb eu brechu ac sydd wedi’u nodi fel cyswllt i achosion positif ac sy’n hunanynysu am 10 diwrnod bellach wneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth yn hytrach na phrawf PCR. Bydd hyn yn helpu i gynyddu capasiti profion PCR. Daw’r newid hwn i rym ar unwaith.
Yn ail, ynghyd â gwledydd eraill y DU, rydym wedi cytuno os bydd person sydd yn dangos dim symptomau yn cael prawf llif unffordd positif, ni fyddant bellach yn cael cyngor i gael prawf PCR dilynol er mwyn cadarnhau’r canlyniad, oni bai eu bod mewn grŵp sy’n agored i niwed yn glinigol, a allai fod angen mynediad cynnar at driniaeth, neu wedi cael cyngor i gael prawf PCR fel rhan o raglen ymchwil a monitro.
Daw’r newid hwn i rym o 6 Ionawr 2022.
Mae angen i bawb barhau i chwarae ei ran i dorri trosglwyddiad COVID-19 drwy gofnodi canlyniadau eu prawf llif unffordd ar wefan gov.uk neu drwy ffonio 119.
Mae canlyniadau positif o brofion llif unffordd eisoes yn mynd i system olrhain cysylltiadau Cymru er mwyn cyflymu’r broses o gysylltu a rhoi cymorth i bawb sydd angen hunanynysu.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: