BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) 2022-23 – Ymestyn y ddarpariaeth o Gyfarpar Diogelu Personol am ddim ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Sylfaenol ehangach

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

‘Mae’n bleser gennyf gadarnhau bod trefniadau yn eu lle er mwyn ymestyn y ddarpariaeth o gyfarpar diogelu personol (PPE) am ddim i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol tan ddiwedd mis Mawrth 2023.

Wedi’r ymateb cychwynnol i’r pandemig, cytunwyd ar drefniant ffurfiol ym mis Medi 2020 er mwyn darparu cyfarpar diogelu personol am ddim i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Gwnaethpwyd hyn drwy gytundeb lefel gwasanaeth rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Yn ddiweddarach, adnewyddwyd y cytundeb lefel gwasanaeth ar yr un telerau ac amodau, ac ar gyfer cyfnod dan gytundeb o 1 Medi 2021 tan 31 Mawrth 2022. Mae’r cytundeb lefel gwasanaeth yn cael ei adnewyddu unwaith eto, ar yr un telerau ac amodau ac ar gyfer cyfnod dan gytundeb o 1 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2023.

Mae sicrhau cyfarpar diogelu personol am ddim i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol cyhyd ag y bo angen i’w cynorthwyo i ddelio â’r pandemig yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Bydd parhad y cytundeb lefel gwasanaeth yn rhoi sicrwydd i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol y byddwn yn parhau i’w cefnogi â chyfarpar diogelu personol am ddim dros y flwyddyn nesaf.’

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.