BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi y Cynllun Cyflenwi Teithio Llesol

People walking in Eryri

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Heddiw (13 March 2024), rwyf yn cyhoeddi Cynllun Cyflawni Teithio Llesol 2024-27.

Mae ymrwymiad yn ein Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol (NTDP), y Cynllun Cyflawni Teithio Llesol yn nodi'n fanylach sut y byddwn ni a'n partneriaid cyflenwi yn gweithredu'r ymrwymiadau teithio llesol yn Llwybr Newydd a'r NTDP.

Nod y Cynllun Cyflawni Teithio Llesol yw cynyddu newid moddol trwy wneud teithio llesol yn haws cael mynediad ato, yn fwy deniadol i'w ddefnyddio ac yn fwy cynhwysol. Mae yn rhoi manylion y prif gamau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r nod hwn ar draws ein pedwar maes cyflawni allweddol:

  • Arwain y newid 
  • Cynyddu ein darpariaeth 
  • Dangos beth all teithio llesol ei gyflawni 
  • Gwneud teithio llesol y dewis cyntaf ar gyfer mwy o deithiau 

Gellir gweld y cynllun llawn yma: Cynllun cyflawni teithio llesol 2024 i 2027


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.