BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Cyllideb Derfynol 2024-25

Finance Minister Rebecca Evans

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

Heddiw, rwyf wedi cyflwyno Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 - Cyllideb sy'n blaenoriaethu'r gwasanaethau cyhoeddus sydd bwysicaf i bobl Cymru. 

Mae Cyllideb Derfynol 2024-25 yn adeiladu ar y cynlluniau gwario yr ydym eisoes wedi'u nodi yn y Gyllideb Ddrafft drwy gyhoeddi dyraniadau adnoddau a chyfalaf ychwanegol a nifer o newidiadau gweinyddol.

Mae dogfennau'r Gyllideb derfynol ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r ddogfen ganlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:

Yn dilyn trafodaethau adeiladol â'r Aelod Dynodedig Arweiniol o Blaid Cymru, rydym hefyd yn cyhoeddi papur ar y cyd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer Datganiad Gwanwyn ar 6 Mawrth 2024. Rwyf yn bwriadu gwneud datganiad mor gynnar â phosibl wedi hynny i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon a manylion unrhyw symiau canlyniadol i Gymru.

Cynhelir y ddadl a'r bleidlais ar y Gyllideb Derfynol yn y Senedd ar 5 Mawrth 2024.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.