BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig – Cynllun cyflawni Tuag at Gymru Ddi-fwg: adroddiad blynyddol 2022 i 2023

No smoking symbol

Datganiad Ysgrifenedig – Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Yn dilyn cyhoeddi'r datganiad ysgrifenedig ar 29 Ionawr 2024 yn cadarnhau'r cynlluniau ar gyfer Bil Tybaco a Fêps newydd i greu cenhedlaeth ddi-fwg ac atal pobl ifanc rhag fepio, rwy'n cyhoeddi heddiw yr adroddiad blynyddol cyntaf ar gyfer Strategaeth Cymru Ddi-fwg Llywodraeth Cymru. 

Mae'r strategaeth yn nodi ein huchelgais i Gymru fod yn ddi-fwg erbyn 2030. Mae hyn yn golygu cyflawni cyfradd cyffredinrwydd smygu tybaco o 5% neu lai mewn oedolion dros 16 oed. Bydd gwireddu Cymru ddi-fwg yn gwella bywydau drwy atal salwch a marwolaethau sy'n gysylltiedig â smygu a chefnogi Cymru iachach, sy’n fwy cyfartal i bawb. 

Fel rhan o'r strategaeth, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfres o gynlluniau cyflawni dwy flynedd, sy’n nodi ein camau gweithredu wrth inni weithio tuag at Gymru ddi-fwg. Rydym hefyd wedi ymrwymo yn y strategaeth i fonitro a gwerthuso camau gweithredu’r cynllun cyflawni yn barhaus a chyhoeddi adroddiadau cynnydd blynyddol i sicrhau ein bod yn parhau ar y trywydd iawn.

I ddarllen y datganiad llawn, dewiswch y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: “Tuag at Gymru Ddi-fwg: Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco 2022-24” – Adroddiad Blynyddol ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2022 - Gorffennaf 2023 (2 Chwefror 2024) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.