BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Cynlluniau ar gyfer Profion COVID-19 a Phrofion Anadlol: Gwanwyn a Haf 2023

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dangosodd cynllun pontio COVID-19 hirdymor Cymru Gyda'n Gilydd tuag at Ddyfodol Mwy Diogel, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, rôl hanfodol ein rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) yn ystod y pandemig o ran lleihau trosglwyddiad y coronafeirws.

Nid yw'r pandemig wedi diflannu – rydym yn parhau i brofi tonnau o haint ac mae amrywiolion newydd o'r feirws yn dod i'r amlwg. Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa sefydlog o ran Covid – nid yw'r feirws yn rhoi'r un pwysau ar ein system iechyd a gofal ag oedd ar ddechrau'r pandemig ac mae brechlynnau ac ymyriadau fferyllol eraill, gan gynnwys cyffuriau gwrthfeiriol, wedi bod yn effeithiol wrth atal salwch difrifol.

Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau o hyd rhag Covid-19 ac mae pigiadau atgyfnerthu wedi gwella'r diogelwch a gynigir gan frechlynnau yn sylweddol. Mae'n bwysig bod pawb sy'n gymwys yn parhau i dderbyn eu cynnig o frechlyn a thriniaethau. Caiff rhaglen brechiadau atgyfnerthu'r gwanwyn ei lansio ar 1 Ebrill.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Cynlluniau ar gyfer Profion COVID-19 a Phrofion Anadlol: Gwanwyn a Haf 2023 (29 Mawrth 2023) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.