Cyhoeddwyd y datganiad canlynol gan Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, roedd gan Gymru ddiwydiant garddwriaethol cyfoethog ac amrywiol a oedd yn cyflenwi anghenion lleol ac yn weithgaredd defnydd tir sylweddol yn lleol. Ond arweiniodd y symudiad at system fwyd fyd-eang yn negawdau olaf y ganrif, gydag arbenigedd cynhyrchu, at ddirywiad sylweddol mewn garddwriaeth yng Nghymru, ac yn wir yn y DU. Rydym bellach yn dibynnu'n helaeth ar fewnforion, boed o dramor neu rywle arall yn y DU.
Mae angen nawr i dyfu mwy o ffrwythau a llysiau yng Nghymru; boed yn dyfu cnydau yn yr awyr agored, perllannau a ffrwythau aeron, neu gnydau tyfu wedi'u gwarchod mewn tai gwydr a thwnelau polythen.
Mae gennym gymorth busnes sylweddol ar waith i annog mentrau garddwriaeth newydd a phresennol. Rydym yn cefnogi tyfwyr drwy ddau gynllun ariannu pwrpasol - y Cynllun Datblygu Garddwriaeth a'r Cynllun Grantiau Bach - Dechrau Busnes Garddwriaeth.
Ond mae ein gwaith wedi nodi heriau systemig sy'n rhwystrau posibl i gynnydd, a newid sylweddol. Yn 2023 comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar Rhwystrau sy'n atal datblygiadau garddwriaethol bychain yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i fynd i'r afael â rhwystrau gwirioneddol a thybiedig i ddatblygu garddwriaeth ar raddfa fach. Mewn ymateb, fe wnaethom sefydlu Gweithgor Cynllunio Garddwriaeth Cymru o randdeiliaid i gyd-gynhyrchu atebion i'r argymhellion hyn, a chynorthwyo i'w cyflwyno.
Mae'r grŵp hwnnw wedi cyfarfod sawl gwaith dros y misoedd diwethaf i ystyried a chynllunio. Rydym wedi cytuno gyda'r grŵp, y byddai archwilio posibiliadau i ddiweddaru Polisi Cynllunio Cymru i bwysleisio'r ffocws a'r pwysigrwydd penodol yr ydym yn ei roi ar arddwriaeth fel defnydd tir, gan gydnabod ei anghenion gweithredol unigryw, yn gam cyntaf. Er ein bod yn cydnabod yr angen cyffredinol i ddiweddaru Polisi Cynllunio Cymru, byddai unrhyw newidiadau penodol i’r polisi yn ddarostyngedig i waith ymgysylltu ychwanegol â rhanddeiliaid drwy’r gweithdrefnau ymgynghori arferol.
Y tu hwnt i hyn, rydym wedi ymrwymo i archwilio mesurau ychwanegol, fel yr awgrymwyd gan argymhellion yr adroddiad, i gefnogi awdurdodau cynllunio, ymgeiswyr garddwriaeth, a'u hasiantau i ddatblygu mentrau garddwriaeth llwyddiannus. Ein nod yn y pen draw yw meithrin sector garddwriaeth fwy a bywiog trwy ddull cytbwys sy'n integreiddio cynllunio gyda mentrau cefnogol eraill, gan ysgogi twf cynaliadwy ac arloesedd yn y diwydiant.
I ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Datblygu Polisi Garddwriaeth yng Nghymru (18 Rhagfyr 2024) | LLYW.CYMRU