BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad am gynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Mae'r economi ymwelwyr yn rhan bwysig o economi ehangach Cymru, gan gefnogi degau o filoedd o swyddi ledled y wlad a dod â degau o filiynau o bunnoedd i mewn bob blwyddyn.

Mae'n newid yn gyflym iawn gyda thwf llwyfannau archebu ar-lein a newydd-ddyfodiaid i'r farchnad. Mae hyn wedi dod â manteision, megis llwybrau newydd i'r farchnad a mwy o ddewis i ddefnyddwyr, ond mae pryderon wedi cynyddu hefyd ynghylch cydymffurfio â gofynion penodol, y dylai darparwyr llety fod yn cydymffurfio â hwy eisoes er mwyn gweithredu.

Fel rhan o'n gwaith parhaus i sicrhau bod gennym gymunedau ffyniannus a bywiog drwy gydol y flwyddyn ledled Cymru a'r camau rydym yn eu cymryd i ddatblygu twristiaeth gynaliadwy, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety ymwelwyr. Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod yr economi ymwelwyr yn gynaliadwy a ffyniannus. 

Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch sut y gallai cynllun trwyddedu weithio. Daeth i ben ar 17 Mawrth 2023 gyda mwy na 1,500 o ymatebion yn dod i law. Comisiynwyd dadansoddiad annibynnol o'r ymatebion ym mis Ebrill, a heddiw (5 Gorffennaf 2023) rwy'n cyhoeddi'r canfyddiadau.

Am wybodaeth bellach, dilynwch y ddoleni ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.