Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
“Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhaglen allweddol a ariennir gan yr UE i helpu i ysbrydoli unigolion i fod yn entrepreneuraidd, a sicrhau bod microfusnesau a busnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth, canllawiau a chymorth priodol ac amserol. Arferai dderbyn cymorth gan gronfeydd yr UE. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth y DU wedi lleihau’n sylweddol gyfanswm y cyllid ar gyfer Cymru a fydd yn cymryd lle cronfeydd yr UE.
Rwyf yn cyhoeddi heddiw (24 May 2022) fy mod wedi penderfynu darparu £20.9m y flwyddyn, hyd at fis Mawrth 2025, i ymestyn gwasanaeth asgwrn cefn Busnes Cymru ar ôl i gyllid yr UE ddod i ben yn 2023. Golyga hyn y bydd y gwasanaeth hefyd yn gallu darparu cyngor a chymorth penodol i'r sector mentrau cymdeithasol yma yng Nghymru…”
I ddarllen yr ymweliad datganiad llawn ewch i Datganiad Ysgrifenedig: Dyfodol Busnes Cymru o 2023 (24 Mai 2022) | LLYW.CYMRU