BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Gohirio Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Bydd y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio yn golygu y bydd busnesau sy'n gosod nwyddau wedi'u pecynnu ar y farchnad yn gyfrifol am gost lawn ailgylchu a rheoli gwastraff ar gyfer deunyddiau pacio pan fyddant wedi dod i ddiwedd eu hoes fwriadedig. 

Mae cyflwyno'r cynllun yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu a fydd yn lleihau faint o ddeunydd pacio diangen sy'n cael ei ddefnyddio, yn cynyddu faint ohono sy'n cael ei ailgylchu, yn lleihau sbwriel deunydd pacioac yn annog pobl i’w ailddefnyddio. Felly, mae'n bwysig o safbwynt mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, ac adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth inni symud tuag at Gymru sero net.  

Mae'r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio yn cael ei ddatblygu ar draws y DU mewn partneriaeth â chenhedloedd eraill y DU, gyda dyluniad y cynllun diwygiadau wedi'i gyhoeddi ar y cyd ym mis Mawrth 2022. Bydd y diwygiadau yn dod â newidiadau sylweddol i'r ffordd y caiff deunydd pacio ei reoli ledled y DU, gydag amcangyfrif o ryw £1.2 biliwn o gostau trosglwyddo  o'r sector preifat i'r sector cyhoeddus ar gyfer darparu gwasanaethau casglu deunydd pacio i’w ailgylchu  a gwasanaethau rheoli gwastraff yn effeithlon ac effeithiol. 

Mae Llywodraethau'r DU (yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban) yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiwygiadau deunydd pacio sy'n gweithio i fusnesau, yr amgylchedd a'r economi gyfan. Wrth ddatblygu'r cynllun, mae'r pedair gweinyddiaeth wedi bod yn gweithio'n agos gyda diwydiant, awdurdodau lleol a'r sector rheoli gwastraff i lywio'r dull gweithredu.

Wrth wneud hynny, rydym wedi clywed a gwrando ar adborth gan fusnesau ac awdurdodau lleol sy’n gofyn am amser ychwanegol i ymgyfarwyddo â'r diwygiadau a pharatoi ar eu cyfer. Felly, mae pob un o bedair gwlad y DU wedi gwneud penderfyniad ar y cyd i ohirio'r rhwymedigaethau o dan y cynllun ar gyfer taliadau deunydd pacio rhwng Hydref 2024 a Hydref 2025.

Bydd y llinell amser ddiwygiedig ar gyfer y  cynllun yn ein galluogi i weithio gyda busnesau, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach i fireinio'r cynllun ymhellach i sicrhau y bydd yn cyflawni ein nodau amgylcheddol cyffredin yn effeithiol ac yn helpu i roi'r sector ar lwybr clir at ddatgarboneiddio.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Gohirio Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio (26 Gorffennaf 2023) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.