Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Yn dilyn colli cyllid yr UE, cyhoeddais ym mis Mai 2022 ymrwymiad Llywodraeth Cymru o £20.9 miliwn y flwyddyn, hyd at fis Mawrth 2025, i barhau â gwasanaeth cymorth Busnes Cymru. Yn dilyn diweddariad llawn o'r gwasanaeth, rwy'n falch o gyhoeddi fod y gwasanaeth yn gwbl weithredol.
Mae gwasanaethau Busnes Cymru yn cyflawni ein huchelgeisiau a amlinellir yn y Genhadaeth Economaidd ddiweddar ac ar ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, decach a gwyrddach.
Rwy’n gallu cadarnhau bod gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru yn gonsortiwm sy'n cynnwys Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaeth Datblygu Cymru, UnLtd, CGGC ac a arweinir gan Cwmpas i ddarparu cyngor busnes arbenigol i'r sector.
Dyfarnwyd Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes Cymru i Bartneriaeth Menter Cymru (EPC), partneriaeth consortia rhwng Busnes mewn Ffocws, M-Sparc a Menter Môn.
Hefyd, ers mis Ebrill 2023, mae Gyrfa Cymru yn arwain y gwaith o gyflwyno Syniadau Mawr Cymru mewn ysgolion i gael mwy o integreiddio entrepreneuriaeth â chyfleoedd cyflogaeth prif ffrwd ac alinio darpariaeth i gefnogi yr ysgol wrth weithredu'r cwricwlwm newydd. Mae integreiddio pellach o dan Warant Pobl Ifanc wedi galluogi'r Biwro Cyflogaeth a Menter gyda addysg bellach a chymorth grant pellach i addysg uwch i gyflymu entrepreneuriaeth myfyrwyr tan fis Mawrth 2025.
Cafodd contract gwasanaeth Datblygu Busnes a Thwf Busnes Cymru ei ddyfarnu ym mis Mehefin 2023 i Fenter Partneriaeth Cymru. Mae'r gwasanaeth yn agored i unrhyw fusnes micro neu fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, sy'n ceisio creu gwydnwch, gwella cynhyrchiant neu wireddu uchelgeisiau ar gyfer twf. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cymorth cynghori arbenigol gan gynnwys cyflogaeth, sgiliau a gwaith teg, cyngor datgarboneiddio, ochr yn ochr â'n cynllunio busnes ac ariannol ar gyfer twf busnes.
Cafodd contract Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, ei ddyfarnu i Newable International Ltd. Bydd y contract hwn yn dechrau o 1 Ebrill 2024 a bydd y gynulleidfa darged ar gyfer y gwasanaeth hwn yn cynnwys busnesau twf uchel cyn-refeniw a sefydledig sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, a all ddangos y potensial ar gyfer twf uchel cyflym mewn ffordd gynhwysol a chynaliadwy, trwy gyflogaeth o ansawdd, allforio a buddsoddi dros y 5 mlynedd nesaf.
Mae'r gwasanaeth yn darparu hyblygrwydd i addasu i flaenoriaethau llywodraeth ac economaidd newydd. Bu'r pontio rhwng contractau yn llyfn heb unrhyw doriad mewn gwasanaeth i gleientiaid.
Hyd yn hyn, yn ystod tymor y llywodraeth hon, mae Busnes Cymru wedi cynorthwyo 6,564 o unigolion i ddatblygu cynigion busnes, helpu i ddechrau 2,901 o fusnesau newydd, cynorthwyo 3,490 o entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig i ddiogelu 4,525 o swyddi a helpu i greu 9,909 o swyddi newydd. Yn ystod yr un cyfnod mae Llinell Gymorth Busnes Cymru wedi ymdrin â dros 33,500 o ymholiadau, ymwelwyd â gwefan Busnes Cymru bron 10.3 miliwn o weithiau, ac mae gwasanaeth Busnes Wales wedi cefnogi dros 94,500 o fentrau drwy ddarparu gwybodaeth iddynt a’u cyfeirio at wasanaethau eraill. Ers lansio'r Warant i Bobl Ifanc, mae dros 509 o bobl ifanc wedi dechrau busnes ac mae dros 403 wedi derbyn Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc.
Mae gwasanaeth Busnes Cymru yn parhau i gael effaith gadarnhaol gyda phob £1 a fuddsoddir yn darparu hyd at £18 o werth ychwanegol, a busnes newydd a gefnogir gan Busnes Cymru ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn gweithredu ar ôl pum mlynedd o'i gymharu â busnes heb gefnogaeth.
I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol: