BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Mis Balchder 2023

Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.

Yn ystod Mis Balchder eleni, rydym eisiau talu teyrnged i eiriolwyr a gweithredwyr sydd wedi helpu i adeiladu mudiad cryf ac unedig dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Mae ymdrechion yr arloeswyr a wnaeth arwain y ffordd wedi sicrhau bod cydraddoldeb i bobl LHDTC+ wedi symud ymlaen yn aruthrol. Rydym yn cofio ac yn cydnabod y cenedlaethau o bobl LHDTC+ sydd wedi ymladd fel unigolion, ac fel un grŵp cadarn, i ni gael bod, i ni gael byw, ac i ni gael caru fel ni ein hunain. 

Mae’r mis hwn hefyd yn ein hatgoffa bod llawer o waith i’w wneud eto. Mae’r angen am Fis Balchder a Digwyddiadau Balchder yn parhau, a hynny er mwyn diogelu hawliau LHDTC+ a symud y gwaith ymlaen, yn enwedig wrth i garfannau ymosod ar ein hawliau yma a ledled y byd. Er gwaethaf hyn, mae cymunedau LHDTC+ yng Nghymru yn parhau’n gryf, yn gadarn ac yn gwbl falch.

Mae’r llywodraeth hon yn falch o sefyll ochr yn ochr â chymunedau LHDTC+ yn yr ymdrech  dros ryddid a chydraddoldeb – heddiw, fory, drennydd. Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford a minnau yn mynd i Pride Cymru yng Nghaerdydd y penwythnos hwn i ddathlu pobl LHDTC+ yng Nghymru, ac i orymdeithio a chefnogi’r rheini sydd yn parhau i frwydro dros gynnydd. Nid yw cynnydd i’w gymryd yn ganiataol, ac ni allwn orffwys ar ein rhwyfau.

Rydyn ni'n gwybod bod ariannu sefydliadau Balchder lleol yn werth chweil, a’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i gymunedau LHDTC+ ledled y wlad - mae hynny’n rhywbeth rydw i wedi'i weld a'i deimlo drosof fy hun. Rwy'n falch ein bod wedi ehangu ein Cronfa Balchder Llawr Gwlad i alluogi mwy o gymunedau i ddod at ei gilydd a bod yn nhw’u hunain.

Bydd hyn yn adeiladu ar y gefnogaeth rydym eisoes wedi'i chynnig i lawer o ddigwyddiadau Balchder ledled Cymru, gan gynnwys Balchder y Bari, Balchder y Bont-faen, Grŵp Balchder Glitter Pride, Balchder yn y Porthladd (Casnewydd), Balchder Abertawe, Balchder Bae Colwyn, Balchder y Fenni a Balchder y Gelli. Rydym hefyd yn parhau i gefnogi Balchder Gogledd Cymru, a gynhaliwyd ym Mangor y llynedd ac eleni bydd yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Mis Balchder 2023 (15 Mehefin 2023) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.